Dathlwch harddwch ac amrywiaeth natur Cymru gyda'n gilydd.
Ymunwch â digwyddiad, archwiliwch eich ardal leol, byddwch yn greadigol, neu arhoswch i sylwi ar y natur o'ch cwmpas - lle bynnag y byddwch 🌍💚
Ewch i'n calendr digwyddiadau i weld beth sy'n digwydd yn eich ardal chi ac ewch i'r brif dudalen am syniadau ac ysbrydoliaeth.
Mae rhywbeth yno i bawb, o ddechreuwyr i’r rhai sy’n caru natur. Mae digwyddiadau hefyd yn digwydd ar hyd a lled gwarchodfeydd Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt a'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Mae'r rhan fwyaf yn ddi-dâl ac yn aml yn cynnwys teithiau cerdded dan arweiniad arbenigwyr.
Cleisio Rhedyn i Ehangu Cynefin Pryfed Tân Cwm Elan
9 Gorffennaf 1:30-4:00
Mae cynefin pryfed tân neu fagïod Cwm Elan yn dirywio ac mae’r poblogaethau lleol dan fygythiad. Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Cwm Elan i gynnal gwaith cleisio rhedyn a rheoli prysgwydd er mwyn helpu i gynyddu cynefin y magïod.
Darperir hyfforddiant. Nid oes angen unrhyw brofiad.
Er mwyn cael mwy o fanylion ac i gofrestru dilynwch y ddolen hon
Mae'r digwyddiad hwn yn Wythnos Natur Cymru yn rhan o brosiect Coedwig Genedlaethol – Adfer Coridorau Glannau Afon yng Nghwm Crai, a reolir gan Bartneriaeth Natur Leol Bannau Brycheiniog mewn cydweithrediad â BIS, Sefydliad Gwy ac Wysg, Stump Up for Trees a Coed Cadw. Nod y prosiect yw gwella cynefinoedd glannau afon trwy greu coetiroedd, gwrychoedd a lleiniau cysgodi, cryfhau coridorau bywyd gwyllt, gwella ansawdd dŵr a chefnogi bioamrywiaeth ar draws y cwm.
Bydd y diwrnod cofnodi hwn yn canolbwyntio ar fferm amrywiol ond nad yw wedi’i chofnodi'n ddigonol o fewn ardal y prosiect. Nid yw'r fferm wedi cael ei haredig na'i gwrteithio ers blynyddoedd lawer ac mae'n cynnal amrywiaeth o gynefinoedd, gan gynnwys planhigfa gonwydd a dorrwyd yn ddiweddar (fel rhan o waith y prosiect), lleiniau cysgodi, llifolchdiroedd, coridorau glannau afon, waliau cerrig a mynediad i ardaloedd ucheldir.
Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle am ddim, cliciwch ar y ddolen Eventbrite
Bydd mwy o fanylion am y lleoliad (cyfleusterau, cod post, manylion parcio a chyfeirnod grid) yn cael eu darparu yn nes at yr amser i'r rhai sydd wedi archebu lle.
Taith gerdded hamddenol o Ben y Pas i Glaslyn ac yn ôl, gyda digon o amser ar gyfer chwedlau lleol a gweithgareddau syml i gysylltu â natur.
Dewch i glywed straeon am y Brenin Arthur ac Excalibur, y cawr sydd wedi’i gladdu ar Yr Wyddfa, a’r tylwyth teg a fu’n tywys glowyr lleol.
Bydd yn ddiwrnod ymlaciol ac adfywiol gyda digon o seibiannau i fwynhau’r cwm godidog hwn yng nghanol Eryri. Nid yw’r daith hon yn addas ar gyfer cŵn, mae’n ddrwg gennym.
Mae hwn yn ddigwyddiad dwyieithog ond os nad ydych yn siarad Cymraeg, peidiwch â phoeni – byddwch yn dal i ddysgu ychydig o eiriau ac yn cael amser hyfryd!
10 Gorffennaf 7:30pm - 9:30pm Man cyfarfod Brecon Tap
Mae synau gwenoliaid du yn nodweddiadol o’r haf. Dewch am dro hafaidd hamddenol gyda'r nos a chael cyfle i wrando ar alwadau swnllyd y gwenoliaid du! Dysgwch fwy am yr acrobatiaid awyr anhygoel hyn a chyfrannwch at waith casglu data i helpu'r rhywogaeth hon sydd dan fygythiad.
Cynhelir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Grŵp Gwenoliaid Du Aberhonddu.
Digwyddiad rhad ac am ddim
Er mwyn cael mwy o fanylion a manylion cysylltu’r trefnydd dilynwch y ddolen hon
Taith Gerdded Llwybr y Llechi ar gyfer Pobl Dros 55
10 Gorffennaf
10:00-16:00 Beddgelert
Ymunwch â ni am daith gerdded ddwysedig odidog ar hyd rhan o’r Llwybr Llechi hanesyddol yn Eryri. Mae’r llwybr hwn yn ein harwain o bentref hardd Beddgelert heibio bedd Gelert, ar hyd Bwlch Aberglaslyn, gyda golygfeydd mynyddig, coetiroedd, tirweddau hen chwareli a llwybrau mewn cymoedd anghysbell tuag at Groesor ac ymlaen i Garreg.
Diwrnod Natur a Lles yng Nghaeau’r Ynys, Aberhonddu
10 Gorffennaf 10:00 - 14:00
Digwyddiad am ddim yn ystod Wythnos Natur i ddathlu natur ar ein stepen drws. Mae’n ddigwyddiad sy’n dod â lles a chadwraeth natur ynghyd. Gyda gweithgareddau ymarferol fel tynnu Jac y Neidiwr a chofnodi bywyd gwyllt i’r rhai sy’n hoff o dorchi eu llewys, ac i’r rhai a hoffai ymhyfrydu yn yr awyr agored, rydym yn cynnig sesiynau dyddiadur natur ac ymdrochi yn y goedwig.
Diwrnod Natur ar Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, Y Barri
11 Gorffennaf 10:00yb - 4:30yp
Ymunwch â ni am ddiwrnod teuluol ardderchog i ddathlu natur ar Fferm Ymddiriedolaeth Amelia.
Archwiliwch ein coetir hardd a mwynhewch amrywiaeth o weithgareddau a ysbrydolwyd gan natur, gan gynnwys:
🌿Llwybr Sylwi ar Natur
🍂 Rhwbiadau Natur
🌲 Taith Natur Dywysedig drwy’r Coetir
📖 Amser Stori yn y Gwyllt
🍄 Corachod Cyll a Chrefft Madarch
🧘 Gweithgaredd ymlacio ymhlith y coed (hunan-dywysedig)
Mae eich tocyn hefyd yn cynnwys amser i archwilio'r fferm, cwrdd â'n hanifeiliaid cyfeillgar, crwydro drwy'r gerddi, dilyn ein llwybr fferm tymhorol a darganfod ein cerfluniau synhwyraidd.
Er mwyn cael rhagor o fanylion ac i archebu eich lle, cliciwch ar y ddolen
11 Gorffennaf, 10am–4pm, ar Dir y Castell, Aberystwyth
Ymunwch â ni am ddiwrnod o fywyd gwyllt, creadigrwydd, darganfod a chymuned yng Ngŵyl Natur Ceredigion.
Mae’r ŵyl yn ddathliad rhad ac am ddim o amgylchedd naturiol rhyfeddol Ceredigion, ynghyd â’r bobl, y prosiectau a’r sefydliadau sy’n gweithio i’w warchod a’i adfer. Yn rhan o Wythnos Natur Cymru, daw’r digwyddiad â grwpiau cadwraeth, sefydliadau cymunedol, artistiaid, ymchwilwyr a gwirfoddolwyr lleol ynghyd i ysbrydoli gweithredu dros natur a helpu pobl i gysylltu â’r bywyd gwyllt ar garreg eu drws.
P’un a ydych chi’n naturiaethwr brwd, yn deulu sy’n chwilio am ddiwrnod allan hwyliog, neu’n chwilfrydig am fywyd gwyllt a thirweddau Ceredigion, bydd rhywbeth at ddant pawb.
Diwrnod hwyl a chreadigol i bobl sy’n caru’r awyr agored, yn hoffi mapiau, ac eisiau chwarae gyda lliwiau a siapiau tirwedd Eryri.
Byddwn yn rhannu ein hatgofion o lwybrau ystyrlon rydym wedi’u cerdded yn Eryri. Byddwn yn myfyrio ar yr hyn mae’r llwybrau hyn yn ei olygu i ni ar lefel ddyfnach, sut maent wedi cyfoethogi ein bywydau, a sut maent yn ein cysylltu â natur a’r tir o’n gwmpas. Byddwn hefyd yn mynd am dro byr ger y lleoliad i gasglu ysbrydoliaeth a deunyddiau o’r dirwedd
11th Gorffennaf 10:00 – 16:00 Dathlu Natur Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd
Ymunwch â ni yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wrth i ni ddathlu cyfoeth byd natur yng Nghymru.
Bydd gwyddonwyr Amgueddfa Cymru wrth law i roi cipolwg ar amrywiaeth rhyfeddol o fywyd, gan ddefnyddio sbesimenau o’n casgliadau sy’n cael eu storio yng Nghaerdydd.
Dewch i ddysgu gan ein harbenigwyr ar blanhigion, anifeiliaid a ffosilau.
Rydyn ni’n cydweithio â sawl elusen a sefydliad natur lleol, fydd yn siarad am eu projectau gwych sy’n helpu i ddiogelu ein bioamrywiaeth.
Ymunwch â Ieuenctid Cyfeillion Gŵyr i ddarganfod am y bywyd gwyllt cudd anhygoel sy'n byw yn safle’r hen bwll glo ym Mharc Melin Mynach, sy'n llawn ceiliogod rhedyn a chwilod ynghudd y tu ôl i'r trac pwmpio. Byddwn yn chwilio am bryfed cop, llifbryfed, gwenyn, a gloÿnnod byw sy'n byw ymhlith y glaswelltiroedd yn y parc.
Mae hwn yn safle anhygoel nad yw llawer yn ymweld ag ef felly dewch i ddarganfod beth sy'n byw yno.
Am ragor o fanylion ac i archebu eich lle am ddim, ewch i dudalen Eventbrite Cyfeillion Gŵyr
Rydym wrth ein bodd y bydd Daniel Morden yn ymuno â ni ym Mharc Pont-y-Pŵl i adrodd chwedl Gymreig am Gwion Bach a'i ddihangfa anhygoel rhag y dduwies Ceridwen. Mae’r stori gyffrous yn dilyn hynt Gwion Bach wrth iddo drawsnewid i wahanol anifeiliaid er mwyn dianc, ond i Ceridwen ei hun drawsnewid yn ysglyfaethwr a mynd ar ôl yr anifeiliaid hynny! Dewch i wrando ar y stori hudolus a gwefreiddiol hon o amser maith yn ôl!
Bydd cyfle hefyd i wneud gwaith crefft yn dilyn y stori, er mwyn i blant gael creu masgiau o rai o’r anifeiliaid yn y stori a’u lliwio.
Cynulleidfa: 7 oed a hŷn
Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan Eventbrite
4 Gorffennaf 2 sesiwn. 10:00- 11:00 ac 11:30-12:30
Ydych chi erioed wedi profi ioga yn yr awyr agored? Mae Yoga For Health Cymru yn cyflwyno ioga yng nghyffiniau tawel Maenor Llanyrafon i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd, sy’n rhan o Wythnos Natur Cymru. Drwy’r sesiwn cewch ddod yn nes i fyd natur, wrth ymarfer corff ac ymdawelu ymhlith y blodau gwyllt, y pryfed peillio a seiniau pêr yr adar.
Sesiwn 10:00-11:00 - Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan Eventbrite
Sesiwn 11:30-12:30 - Am ragor o fanylion ac i archebu lle am ddim ewch i wefan Eventbrite
Bydd rhywbeth i bawb – digwyddiadau i unigolion, teuluoedd a'r rhai sy'n newydd i fyd natur, ac i'r naturiaethwr mwy profiadol.
Cynhelir digwyddiadau Wythnos Natur Cymru bob blwyddyn yng ngwarchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur a'r RSPB, gwarchodfeydd natur lleol a chenedlaethol, parciau a mannau gwyrdd cymunedol, ysgolion a safleoedd addoli, traethau ac ardaloedd arfordirol.
Mae digwyddiad nodweddiadol yn cynnwys taith gerdded wedi’i thywys ar safle natur. Bydd arweinydd arbenigol yn tynnu sylw at blanhigion ac anifeiliaid a phwysigrwydd y cynefin ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae'r mwyafrif helaeth o'r digwyddiadau yn rhad ac am ddim*
*Efallai y codir tâl mynediad i ychydig o ddigwyddiadau. Mae hyn yn cefnogi'r gwaith gwerthfawr mae'r sefydliad yn ei wneud ar ran natur.