Cwrs Adnabod Cacwn a Thaith Gerdded Dywysedig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

Cwrs Adnabod Cacwn a Thaith Gerdded Dywysedig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd
12 Gorffennaf 11:00-13:00
Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn gartref i amrywiaeth ryfeddol o gacwn gan gynnwys y 7 rhywogaeth gyffredin a 2 arbennig iawn! Ymunwch â’n taith gerdded dywysedig a'n gweithdy adnabod lle byddwch chi'n dysgu popeth am y rhywogaethau hyn; sut i'w hadnabod, eu cylch bywyd, sgiliau maes a ffyrdd y gallwch chi helpu i gynnal a gwella’r niferoedd yn eich gardd a'ch mannau gwyrdd.
Argymhellir y gweithdy hwn ar gyfer oedolion neu bobl ifanc 16-24 oed.
Cost £9.00 - £11.00
Os oes gennych ddiddordeb yn y byd naturiol ac yn dymuno dilyn gyrfa ym maes cadwraeth, dewch draw i ddysgu sgiliau newydd i'w hychwanegu at eich CV a dysgu gan bobl wybodus sy'n teimlo’n angerddol ynglŷn â pheillwyr a llawer mwy.
Rhagor o wybodaeth a manylion archebu yma
Casnewydd
Arwynebeddau: Casnewydd
Dyddiadau i ddod: Gorffenaf 12, 2025
Planhigion Allan o Le: Sgwrs a Thaith Gerdded ar y Gogarth

Planhigion Allan o Le: Sgwrs a Thaith Gerdded ar y Gogarth
12 Gorffennaf 2:00pm - 3:30pm
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio'r arddangosfa Dihangwyr Gerddi newydd ar y Gogarth, ac wedyn taith gerdded dywys gyda warden y safle.
Rhagor o wybodaeth a manylion archebu yma
Cyfraniad digwyddiad partner yw hwn i ddathlu Wythnos Natur Cymru
y Gogarth
Arwynebeddau: Conwy
Dyddiadau i ddod: Gorffenaf 12, 2025
Blanhigion y Ddôl a'r Glaswelltir harolwg

Blanhigion y Ddôl a'r Glaswelltir harolwg
12 Gorffennaf 10:30 -12:30
Rhagor o wybodaeth a manylion archebu yma
Caerdydd
Arwynebeddau: Caerdydd
Dyddiadau i ddod: Gorffenaf 12, 2025
Taith Fotanegol Cors Burfa, Llanandras

Taith Fotanegol Cors Burfa, Llanandras
12 Gorffennaf, 2:00pm - 4:00pm
Yr haf yw'r amser perffaith i weld yr ystod eang o blanhigion rhyfeddol sy'n ffynnu yng Nghors Burfa. Dewch draw i ymuno â Bronwen Jenkins, wrth iddi roi taith i ni o amgylch rhai o'r mannau gorau sydd gan Burfa i'w cynnig.
Digwyddiad rhad ac am ddim. Archebwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth bellach a dolen archebu: https://www.rwtwales.org/events/2025-07-12-botanical-walk-burfa-bog
Llanandras
Arwynebeddau: Powys
Dyddiadau i ddod: Gorffenaf 12, 2025
Ewch yn Wyllt! Parc Bryn Bach

Blaenau Gwent Digwyddiad Gwyllt Mwyaf de Cymru
Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf
Parc Bryn Bach, Tredegar
10yb - 4yp
Parc Bryn Bach, Tredegar
Arwynebeddau: Blaenau Gwent
Dyddiadau i ddod: Gorffenaf 12, 2025
Dathlu Natur Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

DATHLU NATUR SAIN FFAGAN AMGUEDDFA WERIN CYMRU
12 Gorffennaf 10am-4pm
Llawer o weithgareddau i'w mwynhau. Digwyddiad am ddim, does dim angen archebu.
Rhagor o fanylion ar y ddolen hon.
Sain Ffagan
Arwynebeddau: Caerdydd
Dyddiadau i ddod: Gorffenaf 12, 2025
Cyfrinachau'r lan

Cyfrinachau'r lan
12 Gorffennaf 10.00am
Mumbles Rd, Blackpill Cwrdd yn Blackpill (ar y glaswellt ger y lido), Abertawe SA3 5AS
Dewch i archwilio rhyfeddodau cudd y draethlin gyda ni! Wrth i'r llanw cilio fydd yn gadael cliwiau diddorol am y bywyd morol dirgel sy'n byw yn nyfroedd dwfn Bae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr.
Dan arweiniad biolegwyr môr profiadol fyddwch yn ymgymryd â rôl gwyddonydd môr am y diwrnod ac yn chwilio am wyau ystifflog, pyrsiau'r fôr-forwyn, gwymon lliwgar ac amrywiaeth o gregyn môr prydferth. Ar hyd y ffordd byddwn hefyd yn archwilio microblastigau a'u heffaith bosib ar fywyd gwyllt lleol.
Caiff yr holl ganfyddiadau eu cofnodi a'u cyflwyno i brosiectau gwyddoniaeth dinasyddion cenedlaethol gan ein helpu i ddeall ein hamgylchedd morol yn well.
P'un a ydych chi'n chwilfrydig am fywyd y môr neu'n frwdfrydig dros amddiffyn ein moroedd, dyma'r digwyddiad perffaith ar gyfer pobl o bob oedran felly dewch i ymdrochi ym myd natur!
- Mae croeso i blant, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
- Dewch â digon o ddillad i'ch cadw'n gynnes yn ogystal ag eli haul a het haul
Rhaid cadw lle: https://www.ticketsource.co.uk/wellbeingandsafeguarding/t-ojgzrne
Swansea
Arwynebeddau: Abertawe
Dyddiadau i ddod: Gorffenaf 12, 2025
Gwylio Gwyfynod Caerdydd

Gwylio Gwyfynod
Dysgwch fwy am drapio ac arolygu gwyfynod * Seswn am ddim addas i deuluoedd * Addasi blant 5r oed *. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn * Celf a chrefft ar thema gwyfynod
Dydd Sadwrn 12 Gorffenaf Galwch heibio 9:30-12
Ganolfan Ymwelwyr Parc Bute
Ganolfan Ymwelwyr Parc Bute
Arwynebeddau: Caerdydd
Dyddiadau i ddod: Gorffenaf 12, 2025
Gwehyddu Helyg Tir-phil

Gwehyddu Helyg Tir-phil
13 Gorffennaf, 1pm -2pm
Cymuned Tir-phil
Ymunwch â ‘Nature Makers Newport’ am sesiwn gwehyddu helyg
Gweler holl weithgareddau ‘Nature Maker’ yma: https://beacons.ai/naturemakersnewport
Tir-Phil
Arwynebeddau: Caerffili
Dyddiadau i ddod: Gorffenaf 13, 2025
Adnabod Coed yr Haf, Coed Pengelli
Adnabod Coed yr Haf, Coed Pengelli
13 Gorffennaf 10:00am - 3pm
Wnaethoch chi erioed stopio a meddwl tybed pa fath o goeden yw hon? Ehangwch eich gwybodaeth am sut i adnabod coed yn yr haf, boed hynny o ran diddordeb cyffredinol, ar gyfer rheoli coetir neu er mwyn adnabod pren ar gyfer gwaith coed a chrefftau.
Ymunwch â Choleg Coppicewood yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol hardd Coed Pengelli i - Adnabod coed cyffredin yng Nghymru a’r DU, - Dysgu mwy am goed mewn coedwig law dymherus, a llawer mwy.
Pris: £45
Rhagor o wybodaeth a manylion archebu yma
Pengelli
Arwynebeddau: Sir Benfro
Dyddiadau i ddod: Gorffenaf 13, 2025
Gweision y neidr a mursennod Y Trallwng

Gweision y neidr a mursennod Y Trallwng
13 Gorffennaf, 2:00pm - 4:00pm
Taith gerdded dan arweiniad o amgylch y pyllau a'r gwlyptiroedd yng Nghlwb Golff y Trallwng.
Mae'r digwyddiad hwn yn ffordd ardderchog o ddathlu Wythnos Natur Cymru ac Wythnos Gweision Neidr! Rhaid archebu.
Y Trallwng
Arwynebeddau: Powys
Dyddiadau i ddod: Gorffenaf 13, 2025
Dadorchuddio Byd Natur Parc Gwledig Margam

Dadorchuddio Byd Natur
Parc Gwledig Margam
13 GORFFENNAF
Bydd y digwyddiad yn arddangos gwaith anhygoel partneriaid, sefydliadau ac unigolion dros natur yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Manylion pellach i ddilyn
Parc Margam
Arwynebeddau: Nedd Port Talbot
Dyddiadau i ddod: Gorffenaf 13, 2025