Mae gosod blwch nythu yn ein gerddi a'n mannau agored yn ffordd ardderchog o helpu adar fel y titw mawr, y titw tomos las, y robin goch a llawer mwy. Dewch i ymuno â ni yn RSPB Ynys-hir i adeiladu eich blwch nythu eich hun.
Bryn Ifan: Gweledigaeth ar gyfer amaethyddiaeth a bywyd gwyllt
Bryn Ifan: Gweledigaeth ar gyfer amaethyddiaeth a bywyd gwyllt
25 Chwefror 7:30pm - 9:00pm (ar-lein)
Dafydd Thomas, Swyddog Prosiect, fydd yn cyflwyno ar y cyfleoedd a'r materion ar gyfer cadwraeth a ffermio yn y fferm 450 erw sydd wedi’i chaffael yn ddiweddar ym Mryn Ifan.
Ymunwch â Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn a Katie Appleby o'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adar Hela a Bywyd Gwyllt
ar gyfer noson ddifyr yn ymchwilio i gadwraeth ac adferiad y Gylfinir yng nghanolbarth Cymru.
Dewch i glywed gan banel dan arweiniad ffermwr ochr yn ochr â chadwraethwyr sy’n gweithio’n weithredol i helpu Cylfinirod, gan rannu profiadau ymarferol, heriau a llwyddiannau.
Mae aderyn dŵr mwyaf y DU, y Gylfinir, yn prysur ddiflannu o’r dirwedd a rhagwelir y bydd wedi diflannu o Gymru erbyn 2033. Nid yn unig y mae'r aderyn hwn yn rhan hanfodol o dreftadaeth, diwylliant, celf a llesiant Cymru, ond mae diogelu’r rhywogaeth allweddol hon yn helpu i ddiogelu ystod eang o fywyd gwyllt a chynefinoedd eraill hefyd Mae
@CurlewConnectionsWales yn gweithio gyda thirfeddianwyr, ffermwyr a chymunedau ledled Cymru i helpu i sicrhau dyfodol yr aderyn gwych – a gallwch chi fod yn rhan o’r daith honno hefyd.
Mwynhewch swper am ddim, wedi’i wneud gyda chynhwysion lleol, gan gynnwys cawl tymhorol, detholiad o gawsiau Cymreig, a lluniaeth drwy gydol y noson.
Digwyddiad am ddim! Yn cynnwys bwyd a diod, rhaid archebu. Ewch i:montwt.co.uk/events
Dathlu Arfordiroedd Iach yng Nghanolfan Gwlyptiroedd Llanelli
Dathlu Arfordiroedd Iach yng Nghanolfan Gwlyptiroedd Llanelli 10 Chwefror 18:00-20:00 Ymunwch â Phrosiect Seagrass er mwyn cael gwylio sawl ffilm fer sy'n archwilio straeon pobl leol, bywyd gwyllt, bwyd môr cynaliadwy a morwellt. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau cliciwch yma.
Er mwyn gweld rhestr o ddigwyddiadau Prosiect Seagrass a gynhelir y gaeaf hwn cliciwch yma.
Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd Gwarchodfa Natur Cors Crymlyn
Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd Gwarchodfa Natur Cors Crymlyn
Ymunwch ag aelodau o brosiect adfer mawndir LIFEquake ar daith dywys o amgylch y warchodfa a dysgu am yr amrywiaeth enfawr o adar, planhigion ac infertebratau a geir o amgylch Gwarchodfa Crymlyn...yn ogystal â chlywed am y nifer o ffyrdd maen nhw'n gweithio i reoli'r dirwedd wlyptiroedd gwerthfawr.
Gwylio Adar i Ddechreuwyr 24 Ionawr 10:30-12:00 Big Garden Birdwatch yn RSPB Ynys-hir. Dewch i ddatblygu’ch sgiliau gwylio adar gyda ni i’ch paratoi ar gyfer Big Garden Birdwatch yr RSPB. Cyngor cyfeillgar ac awgrymiadau i’ch rhoi ar ben y ffordd gyda gwylio adar. Bydd y sesiwn hon yn rhoi’r hyder a’r wybodaeth i chi gymryd rhan yn y Big Garden Birdwatch eleni ar ôl dychwelyd adref.
Arolwg bywyd gwyllt gardd mwyaf y byd yw Big Garden Birdwatch. Bob blwyddyn, mae cannoedd o filoedd o gariadon natur fel chi yn cymryd rhan, gan helpu i greu darlun o sut mae adar gardd yn ffynnu.
Cudyll Cymru: monitro adar ysglyfaethus yng Nghymru
Sgwrs Grŵp Adar gan Charlotte Griffiths – Cudyll Cymru: monitro adar ysglyfaethus yng Nghymru
21 Ionawr 7:30pm - 9:00pm, Y Trallwng
Dysgwch sut mae prosiect gwyddoniaeth dinasyddion a redir gan Gymdeithas Adareg Prydain yn gweithio i annog y rhai sy’n frwd dros fywyd gwyllt i gymryd rhan mewn gwaith monitro adar ysglyfaethus yng Nghymru.
Ymunwch â ni ar 21 Ionawr o 6 - 7:30yh am weminar ysbrydoledig sy'n dathlu'r Gymraeg a'r Ymdeimlad o Le yn y Sector Amgylchedd a Chadwraeth.
Mae'r digwyddiad hwn yn dod â siaradwyr ynghyd y mae eu gwaith yn dangos sut y gall y Gymraeg ddyfnhau ymgysylltiad â natur a threftadaeth ledled Cymru. Trwy straeon personol a myfyrdodau ar draws y sector, byddwn yn archwilio sut mae defnyddio'r Gymraeg mewn cadwraeth yn helpu i gyfathrebu â phobl ar bob lefel - o gymunedau lleol i gynulleidfaoedd cenedlaethol - a sut y gall gweithio gyda hanes a hunaniaeth ddiwylliannol mewn golwg wneud diogelu ein tirweddau a'n bywyd gwyllt yn fwy ystyrlon ac effeithiol.
Taith Gerdded y Gaeaf yng Ngwarchodfa Natur Y Gogarth
Taith Gerdded y Gaeaf yng Ngwarchodfa Natur Y Gogarth
10 Ionawr 12:30pm - 3:00pm
Ymunwch â ni am daith gerdded y gaeaf i fyny at y llecyn gwylio ar gyfer Gwarchodfa Natur Y Gogarth.
Mae’r digwyddiad yma’n rhan o’n prosiect Natur yn Cyfrif ni. Yn ystod ein digwyddiadau, rydyn ni’n cofnodi'r rhywogaethau rydyn ni’n eu darganfod fel rhan o brosiect gwyddoniaeth y dinesydd i'n helpu ni i reoli ein gwarchodfeydd natur a'n cynefinoedd lleol. Mae prosiect Natur yn Cyfrif yn cael ei gyllido gan y Gronfa Dreftadaeth a Llywodraeth Cymru.
Dewch i ymuno â sesiwn crefftau Nadolig Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd .
Mae Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd yn gyfle i dditectifs ifanc a’u teuluoedd ddysgu am natur ymhob tymor.
Dewch i ymuno â sesiwn crefftau Nadolig Ditectifs Bywyd Gwyllt Caerdydd. Byddwn yn defnyddio deunyddiau naturiol i greu addurniadau Nadoligaidd i chi fynd â nhw adref.
Cyfarfod yng Nghanolfan Gadwraeth Fferm y Fforest, Forest Farm Road, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd. CF14 7JH
Taith Gerdded Adar Gwyllt y Gaeaf yng Ngwarchodfa Natur Ynys-hir yr RSPB
Taith Gerdded Adar Gwyllt y Gaeaf yng Ngwarchodfa Natur Ynys-hir yr RSPB
7 Rhagfyr rhwng 10.30am a 12.30pm
Ymunwch â’n tywyswyr arbenigol wrth iddyn nhw eich helpu i weld corhwyaid bychan, chwiwellod chwibanog, a hwyaid llwyd hyfryd. Chwiliwch hefyd am wyddau, elyrch ac adar hirgoes.
Mae pob pris tocyn yn cynnwys ffioedd mynediad i’r warchodfa a diod boeth yn y Ganolfan Ymwelwyr ar ôl y daith gerdded.
Ymunwch â ni ar 3ydd Rhagfyr yn Theatr Colwyn am noson arbennig gyda'r ddarlledwraig, y biolegydd a’r cyflwynydd bywyd gwyllt hynod boblogaidd, Liz Bonnin, yn sgwrsio gyda Phrif Weithredwr yr Ymddiriedolaethau Natur, Craig Bennett.
For more information and ticket booking click here
Ymunwch â ni am weminar grymuso a mewnwelediadol sy'n dathlu cynhwysiant anabledd o fewn y sector amgylchedd a chadwraeth.
Mae'r digwyddiad hwn yn cynnwys dau siaradwr ysbrydoledig y mae eu profiadau bywyd a'u teithiau proffesiynol yn taflu goleuni ar y rhwystrau, y datblygiadau arloesol, a'r cyfleoedd ar gyfer mwy o hygyrchedd a chynrychiolaeth mewn gwaith sy'n canolbwyntio ar natur.
Fydd y webinar hyn yn cynnwys sgyrsiau gan Anita Eade – Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlyptiroedd a Jess Poole – Ymgynghorydd Arbenigol, Cyfoeth Naturiol Cymru.
Trwy straeon personol ac adlewyrchiadau ar draws y sector, bydd y sesiwn hon yn archwilio sut mae cynhwysiant anabledd yn cyfoethogi ymdrechion cadwraeth ac yn helpu i adeiladu sector mwy cyfartal yn ei gyfanrwydd.
Gwylio adar y gaeafYnys Môn 21st Tachwedd 10:30am - 1:30pm Aber Alaw, Ynys Môn Cyfle i wella eich sgiliau adnabod adar y gaeaf wrth i ni gerdded aber hardd Afon Alaw.
Beak to Basics Y Trallwng 15 Tachwedd 10:00am - 12:00pm, Y Trallwng Ymunwch â ni am gyflwyniad ysgafn i wylio adar yn yr orsaf wasanaeth i fywyd gwyllt. Rhagor o fanylion a gwybodaeth am gadw lle yma
Ystlumod Pedol Brynbuga 12 Tachwedd, 7.30pm - 9pm, Brynbuga Ymunwch â Dave Priddis o Grŵp Ystlumod Swydd Gaerloyw am sgwrs ar Ystlumod pedol. Cost £4 Dim angen cadw lle ymlaen llaw. Rhagor o fanylion a gwybodaeth am gadw lle yma
JYmunwch a ni ar daith dywys o amgylch Coed Buchesau ger Rhydymain, Dolegllau i ddysgu mwy am y gwaith adfer a wneir ar y safle gyda'r nod o wella ei statws cadwraethol. Dewch ia rhcwilio hanes y coetir hynafol hwn a thrafod yr ymyriadau rheoli sydd wedi cael ei wneud ar y safle.
Ymunwch â menter Nature on Your Doorstep am sesiwn Chwilota am Ffyngau ddiddorol ym Mharc Gwledig Dyffryn Clun fel rhan o ddathliadau Diwrnod Ffwng y DU!
Dewch i ddarganfod byd dirgel a hudolus ffyngau wrth i ni archwilio cynefin coetir cyfoethog y parc. Gallwch ddysgu sut i adnabod amrywiaeth o rywogaethau ffwng a datgelu eu rôl hanfodol yn ein hecosystemau.
Man cwrdd: Ynys Newydd Car Park, Derwen Fawr Road, Sketty, Swansea SA2 8DU
What3words: ///cases.buck.closed
Sylwer: Taith gerdded addysgol yw hon, nid digwyddiad chwilota.
Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
Mae’r digwyddiad yn dibynnu ar y tywydd
Gwisgwch ddillad addas ac esgidiau cadarn sy’n addas ar gyfer y tywydd a'r tir
Taith Gerdded Ffyngaidd ym Mryn Buckland 26th Hydref 10:30-13:00 Dysgwch sut i adnabod ffyngau wrth i ni gerdded o amgylch coetir a thir comin Bryn Buckland gyda Shelly a Mike Stroud. Rhagor o fanylion
Beth wnaeth pryfed i ni erioed? Sgwrs gan yr entomolegydd Dr George McGavin ‘Beth wnaeth pryfed i ni erioed?’ 18 Hydref 4:00pm - 5:00pm Llandrindod £8, rhaid cadw lle ymlaen llaw. Rhagor o fanylion a gwybodaeth am archebu yma
Mapio Rhyfeddodau Gwyllt ein Gwarchodfeydd Natur, Y Fenni
Mapio Rhyfeddodau Gwyllt ein Gwarchodfeydd Natur, Y Fenni 16 Hydref, i ddechrau am 19:15 Ymunwch â ni am sgwrs aeaf gyntaf Grŵp y Fenni yn 2025, gyda Lowri Watkins, Uwch Swyddog Tystiolaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent. Rhagor o fanylion
Y Môr a Rhanwn – Diwrnod i’r Teulu, digwyddiad cydweithredol gan Bionet a Phrosiect Wystrys Gwyllt, ar 12 Hydref 2025, rhwng 11yb a 2yp ar Draeth a Phromenâd Llandrillo-yn-Rhos.
Mae’r digwyddiad AM DDIM yn cynnwys: 🎶 Perfformiadau cerddorol 🧒 Gweithgareddau i’r teulu 🧹 Glanhau’r traeth 🐚 Chyfle i ddysgu mwy am brosiectau cadwraeth forol ar hyd ein harfordir.
Fforio am ffyngau 12 Hydref 11:00am - 4:00pm Ymunwch â'n cangen ni o wirfoddolwyr yn Wrecsam am brynhawn o archwilio ffyngau, gan ddechrau yn Chwarel Marford ac wedyn symud ymlaen i Faes y Pant, sydd â detholiad helaeth fel arfer!
Diwrnod Ffwng y Du yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Diwrnod Ffwng y Du yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru 4 Hydref 10am - 4pm Darganfyddwch ryfeddodau cudd yr organebau anhygoel hyn trwy deithiau tywys, gweithgareddau i bawb, ac arddangosfa o rai o’r rhywogaethau ffwngaidd rhyfedd a rhyfeddol a geir yn lleol.
Mae ein Gardd Fotaneg yn cynnig y lleoliad perffaith i archwilio amrywiaeth o gynefinoedd cyfeillgar i fadarch, gan gynnwys coedwigoedd, caeau, dolydd, lawntiau, a gwelyau blodau. Byddwch yn dod ar draws amrywiaeth gyfoethog o fywyd ffwngaidd, o’r capiau cwyr prin a lliwgar i’r corniau drewllyd. Mae pob rhywogaeth mor rhyfedd ag y mae’n brydferth!
Gwlyptiroedd Pwysig Cymru 3 Hydref 19:30 -21:00 Pensychnant Yn y sgwrs hon ar gyfer Cymdeithas Adareg Cambria, bydd Gethin yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhyngwladol gwlyptiroedd Cymru i rai o’n hadar gaeafu.
Gan ganolbwyntio’n bennaf ar adar y dŵr ac adar hirgoes, bydd y sgwrs hon yn ystyried eu poblogaethau yng Nghymru, eu hecoleg, a’r lleoedd gorau yn y wlad i’w gweld. Bydd y sgwrs yn gorffen gyda chyflwyniad i Arolwg Adar Gwlyptiroedd y BTO a sut gallwch chi gymryd rhan yn yr arolwg gwerthfawr hwn.
Digwyddiad am ddim, a does dim angen cadw lle ymlaen llaw. Rhagor o fanylion
Sesiwn Bywyd Gwyllt Ar Ôl Tywyllwch – Parc Gwledig Porthceri
Sesiwn Bywyd Gwyllt Ar Ôl Tywyllwch – Parc Gwledig Porthceri
Dydd Gwener 19 Medi: 18:00 i 20:00
Ymunwch â Phartneriaeth Natur Leol y Fro a Natur Hud ar gyfer sesiwn ar ôl tywyllwch i wylio ystlumod yn hela yn yr awyr, wedi’u dwyn i’r golwg gyda chymorth synwyryddion. Gwelwch yr amrywiaeth anhygoel o wyfynod sy’n cael eu denu at y trapiau golau, a phrofwch y dirwedd mewn ffordd newydd drwy gamera thermol sy’n datgelu symudiadau bywyd gwyllt sydd fel arfer yn gudd rhag y llygad.
Mae Coedwig Glandwr yn gartref i Astudiaeth Garbon Coedwig Glandŵr sy'n bwriadu cyflymu a gwella'r broses o ddal carbon deuocsid (CO2) mewn coed a phridd er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Mae ein rhaglen Gwirfoddoli Gwyddoniaeth Gymunedol yn gofalu fod pobl yn ganolog i’r ymchwil er mwyn helpu i gyflawni amcanion y prosiect. Mae'n ddiwrnod hyfryd sy’n dod â choed, gwyddoniaeth a phobl at ei gilydd.
14 Awst 10:00am - 1:00pm Ymunwch â ni am ddiwrnod hwyliog o gofnodi bywyd gwyllt ar Fferm Pentwyn gyda'r Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth (BIS), i gofnodi'r holl fywyd gwyllt a welwn! A dysgu sut i gyflwyno cofnodion bywyd gwyllt. Digwyddiad rhad ac am ddim Argymhellir archebu. https://www.rwtwales.org/events/2025-08-14-pentwyn-bioblitz
Beth fyddwch chi'n dod o hyd iddo wrth i ni chwilio am chwilod, glöynnod byw ac unrhyw beth arall y gallwn ni ei weld! Croeso i helwyr pryfed o bob oed!
Pwynt cyfarfod
Tai Isaf, Pentir, LL57 4YA. SH 581667 ///awestruck.bench.stopped
Darganfyddwch harddwch Cefnen Rhosili a'r ardal gyfagos drwy fynd ar deithiau cerdded tywysedig. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn hanes, natur, neu ddim ond yn mwynhau sgwrsio, mae'r teithiau cerdded hyn yn gyfle perffaith i archwilio a chysylltu.
Ymunwch â ni yn ein Canolfan Adnoddau Amgylcheddol i ddysgu adnabod gloÿnnod byw sylfaenol a sut i gymryd rhan yng Nghynllun Monitro Glöynnod Byw cenedlaethol y DU. Erbyn diwedd y sesiwn, gobeithio y byddwch chi'n teimlo'n hyderus i gofrestru i gynnal eich Arolwg Glöynnod Byw eich hun, naill ai ar un o'n gwarchodfeydd neu mewn man gwyrdd lleol yn eich ardal chi!
Digwyddiad rhad ac am ddim Rhaid cadw lle ymlaen llaw.
Ymunwch â ni yng Nghaeau Newbridge ddydd Gwener 25 Gorffennaf ar gyfer Gŵyl Natur gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr!
Ymunwch â Phartneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr ac amrywiaeth o elusennau natur lleol, sefydliadau a grwpiau cymunedol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau, o helfeydd natur a theithiau cerdded ffwng, i wneud coronau helyg, a gweithdai adnabod rhywogaethau. 🌳🐞🦋
Mae'r digwyddiad hwn am ddim i bawb, a'r bwriad yw ei fod yn hygyrch ac yn ddiddorol i bawb sydd â diddordeb mewn natur.
Dewch am daith gerdded dywysedig gydag un o’n ceidwaid gwiwerod coch ac archwiliwch Goed y Llaethdy. Dysgwch ffeithiau diddorol am y gwiwerod coch sy’n byw yma ar Ynys Môn.
Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn ddigon ffodus i weld yr anifeiliaid swynol hyn yn ystod y daith gerdded! Ar un adeg yn olygfa brin, mae gwiwerod coch bellach yn ffynnu diolch i raglen ailgyflwyno ym Mhlas Newydd, rhan o Brosiect Gwiwerod Coch Ynys Môn.
Yn dilyn Wythnos Natur Cymru, mae sefydliadau cadwraeth o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd i ddathlu natur ac i gofnodi cymaint o rywogaethau â phosibl dros y penwythnos. Mae gennym amserlen lawn o deithiau cerdded, sgyrsiau, teithiau tywys, stondinau ymgysylltu, a gweithdai dros y penwythnos cyfan i geisio ysgogi ymwelwyr i gymryd rhan yn y gwaith o gofnodi bywyd gwyllt ac i ennyn eu diddordeb ym myd natur. Manylion pellach
Pencadlys Outside Lives, Ffordd Maeshafn, Gwernymynydd, yr Wyddgrug
Fel rhan o Wythnos Natur Cymru 2025, mae Outside Lives, mewn cydweithrediad â Cofnod a Bionet, yn cynnal BioBlitz cyffrous – ac rydyn ni eich angen CHI!
Pam cymryd rhan?
Helpwch i gyfrannu at ymchwil wyddonol go iawn
Dysgwch gan arbenigwyr ac eraill sy’n caru byd natur
Darganfyddwch y bywyd gwyllt anhygoel sydd gennym ar y safle
Cyfle i gael hwyl gyda'ch gilydd yn yr awyr agored!
Digwyddiad rhad ac am ddim. Rhaid archebu gan fod y lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig.
Wnaethoch chi erioed stopio a meddwl tybed pa fath o goeden yw hon? Ehangwch eich gwybodaeth am sut i adnabod coed yn yr haf, boed hynny o ran diddordeb cyffredinol, ar gyfer rheoli coetir neu er mwyn adnabod pren ar gyfer gwaith coed a chrefftau.
Ymunwch â Choleg Coppicewood yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol hardd Coed Pengelli i - Adnabod coed cyffredin yng Nghymru a’r DU, - Dysgu mwy am goed mewn coedwig law dymherus, a llawer mwy.
Cwrs Adnabod Gweision Neidr a Thaith Gerdded Dywysedig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd
Cwrs Adnabod Gweision Neidr a Thaith Gerdded Dywysedig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd
13 Gorffennaf 10:00-15:00
Bydd diwrnod o ddathlu a darganfod yn dod â chi yn agos at weision neidr, wrth i ni ddathlu blwyddyn ers lansio Gwlyptiroedd Casnewydd fel Man Cyfoethog o ran Gweision Neidr.
Bydd y diwrnod yn cynnwys llu o weithgareddau cyffrous:
Teithiau tywysedig gweision y neidr - cwrs adnabod a thaith gerdded dywysedig yng nghwmni Steve Preddy, Cofnodwr y Sir. Archebwch docyn i ymuno â'i sesiwn. Amser cychwyn 10am.
Archwilio pyllau dŵr - Agor rhwng 10:30am a 2:30pm, Talwch am eich offer yn y ganolfan - £4.50 yr un.
Crefftau gwas y neidr a thaflen adnabod gweision y neidr
Arweinwyr gwybodus wrth law os bydd unrhyw gwestiynau
Mumbles Rd, Blackpill Cwrdd yn Blackpill (ar y glaswellt ger y lido), Abertawe SA3 5AS
Dewch i archwilio rhyfeddodau cudd y draethlin gyda ni! Wrth i'r llanw cilio fydd yn gadael cliwiau diddorol am y bywyd morol dirgel sy'n byw yn nyfroedd dwfn Bae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr.
Dan arweiniad biolegwyr môr profiadol fyddwch yn ymgymryd â rôl gwyddonydd môr am y diwrnod ac yn chwilio am wyau ystifflog, pyrsiau'r fôr-forwyn, gwymon lliwgar ac amrywiaeth o gregyn môr prydferth. Ar hyd y ffordd byddwn hefyd yn archwilio microblastigau a'u heffaith bosib ar fywyd gwyllt lleol. Caiff yr holl ganfyddiadau eu cofnodi a'u cyflwyno i brosiectau gwyddoniaeth dinasyddion cenedlaethol gan ein helpu i ddeall ein hamgylchedd morol yn well.
P'un a ydych chi'n chwilfrydig am fywyd y môr neu'n frwdfrydig dros amddiffyn ein moroedd, dyma'r digwyddiad perffaith ar gyfer pobl o bob oedran felly dewch i ymdrochi ym myd natur!
Mae croeso i blant, ond rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
Dewch â digon o ddillad i'ch cadw'n gynnes yn ogystal ag eli haul a het haul
Cwrs Adnabod Cacwn a Thaith Gerdded Dywysedig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd
Cwrs Adnabod Cacwn a Thaith Gerdded Dywysedig yng Ngwlyptiroedd Casnewydd
12 Gorffennaf 11:00-13:00
Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn gartref i amrywiaeth ryfeddol o gacwn gan gynnwys y 7 rhywogaeth gyffredin a 2 arbennig iawn! Ymunwch â’n taith gerdded dywysedig a'n gweithdy adnabod lle byddwch chi'n dysgu popeth am y rhywogaethau hyn; sut i'w hadnabod, eu cylch bywyd, sgiliau maes a ffyrdd y gallwch chi helpu i gynnal a gwella’r niferoedd yn eich gardd a'ch mannau gwyrdd.
Argymhellir y gweithdy hwn ar gyfer oedolion neu bobl ifanc 16-24 oed.
Cost £9.00 - £11.00
Os oes gennych ddiddordeb yn y byd naturiol ac yn dymuno dilyn gyrfa ym maes cadwraeth, dewch draw i ddysgu sgiliau newydd i'w hychwanegu at eich CV a dysgu gan bobl wybodus sy'n teimlo’n angerddol ynglŷn â pheillwyr a llawer mwy.
Dysgwch fwy am drapio ac arolygu gwyfynod * Seswn am ddim addas i deuluoedd * Addasi blant 5r oed *. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn * Celf a chrefft ar thema gwyfynod
Yr haf yw'r amser perffaith i weld yr ystod eang o blanhigion rhyfeddol sy'n ffynnu yng Nghors Burfa. Dewch draw i ymuno â Bronwen Jenkins, wrth iddi roi taith i ni o amgylch rhai o'r mannau gorau sydd gan Burfa i'w cynnig.
Digwyddiad rhad ac am ddim. Archebwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda.
Dewch i ddarganfod bywyd gwyllt annisgwyl Parc Melin Mynach ar daith dywys dan arweiniad yr entomolegydd Liam Olds. Cewch gyfle i archwilio sut mae byd natur wedi dychwelyd i’r safle hwn lle bu pwll glo, gan greu lloches unigryw i rywogaethau prin ac arbenigol. Dysgwch am werth ecolegol cynefinoedd ôl-ddiwydiannol a'r creaduriaid di-asgwrn-cefn, y planhigion a'r bywyd gwyllt diddorol arall sydd bellach wedi ymgartrefu ynddynt. Mae'n ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bywyd gwyllt a hanes lleol.
Dewch i ymuno â ni i greu pensiliau siarcol ar dân gwersyll, ac yna darlunio gyda nhw i gofnodi eich amser mewn byd natur. Nid oes angen sgiliau artistig!
Bydd lluniaeth ar gael.
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cydweithio gyda chyllid TWIG i ddatblygu dau safle - ym Mynea ac yng Nghoetir Glofa Pentremawr, Pontyberem. Mae hyn yn cynnwys creu coetir, cynyddu bioamrywiaeth a gwella mannau gwyrdd er budd y gymuned ac i hybu llesiant.
10 ac 11 Gorffennaf. Bydd y teithiau’n cychwyn am 11:00
Dewch i ddathlu Wythnos Natur Cymru drwy ymuno â Dot Williams o Gwarchod Gloÿnnod Byw i grwydro Old Castle Down a dysgu mwy am bili-pala prinnaf Cymru, y Fritheg Frown, a’r gwaith sy’n cael ei wneud i sicrhau ei dyfodol drwy raglen Natur am Byth. Dewch i nabod y mathau eraill o fywyd gwyllt anhygoel y mae Old Castle Down yn gartref iddynt.
Bydd pob taith gerdded yn cymryd tua 2 awr. Mae rhan fer o’r llwybr yn dringo llethr i ben y twyn ac mae hi’n anwastad dan droed mewn mannau, felly dylid gwisgo esgidiau cadarn. Dewch â dŵr a het gan nad oes llawer o gysgod rhag yr haul ar y twyn. Mae trogod i’w cael ar y twyn o bryd i’w gilydd, felly dylid gwisgo trowsus hir.
Byddwn ni’n cwrdd yn yr ardal barcio ar waelod Old Castle Down.
Mae Edible Mach yn dathlu #wythnosnaturecymru drwy gynnal ambell weithgaredd i fonitro bioamrywiaeth. Mae gennym dudalen iNaturalist newydd ar gyfer safle ein rhandir arddangos felly gallwch chi uwchlwytho unrhyw beth a welwch chi yno yma:https://www.inaturalist.org/projects/edible-mach-y-plas Ar Dydd Iau 10fed o Orffennaf, yn ein sesiwn gwirfoddoli rheolaidd yn y Plas 10-12 byddwn yn arolygu’r safle ac yn gwneud cynefinoedd bywyd gwyllt. Dewch draw i ymuno
Ymunwch â thîm Lefelau Byw am daith gerdded hamddenol yng Nghors Magwyr, a fydd yn gyfle i gael golwg agosach ar weision y neidr a mursennod, wrth i ni ddathlu blwyddyn ers i’r @britishdragonflysociety ddynodi’r safle hwn yn fan cyfoethog o ran gweision y neidr!
Mae hefyd yn Wythnos Gweision y Neidr ac yn @wythnosnaturcymru felly hyd yn oed yn fwy o gymhelliant i fynd allan i archwilio yn yr awyr agored!
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, archebwch le ar Eventbrite
Taith unigryw o’r feithrinfa goed a blodau gwyllt i ddarganfod ein rhywogaethaubrodorol bendigedig. Sefydlwyd y feithrinfa i gyflenwi prosiectau bioamrywiaethledled Sir Ddinbych ac nid yw ar agor i'r cyhoedd. Bydd hwn yn gyfle gwych i ofyncwestiynau am y gwahanol fathau brodorol o goed, llwyni a phlanhigion a'uhaddasrwydd i swyddogaethau a chynefinoedd gwahanol.Gallai'r wybodaeth hon eich helpu i drawsnewid cynlluniau plannu eich Cyngor,gwella bioamrywiaeth, a hyrwyddo mathau treftadaeth Gymreig sy'n ffynnu yn einhinsawdd unigryw ac yn cefnogi ein bywyd gwyllt amrywiol.
Cysylltwch â bywyd gwyllt a chynefinoedd godidog Sir Gaerfyrddin yn Wythnos Natur Cymru Nid oes angen archebu ymlaen llaw. Mwy o wybodaeth: PAubrey(ecarmarthenhsire.gov.uk
Ymunwch â ni ar daith dywys i ymweld â'n nythfa brysur o adar môr. Y mis hwn fydd y mis olaf i weld ein hamrywiaeth ryfeddol o adar môr cyn iddyn nhw wneud eu ffordd allan i'r môr dros y gaeaf. Dewch draw i'w gweld cyn iddyn nhw adael!
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i roi camerâu a'u casglu 30 diwrnod yn ddiweddarach. Byddwn yn cyflwyno'r arolwg ac yn dangos i chi sut i sefydlu'r camerâu, cyn i ni rannu'n dimau i'w rhoi allan ar draws y safle. Ar ôl i'r camerâu gael eu casglu, mae delweddau'n cael eu llwytho i fyny i'n hwb ar MammalWeb.
Yn anffodus, mae ein draenogod annwyl dan fygythiad, ar ôl i'w niferoedd ddirywio'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Digwyddiad a am ddim. Rhagor o wybodaeth a manylion archebu yma
Cysylltwch â bywyd gwyllt a chynefinoedd godidog Sir Gaerfyrddin yn Wythnos Natur Cymru Nid oes angen archebu ymlaen llaw. Am Ddim. Mwy o wybodaeth: PAubrey@carmarthenhsire.gov.uk
Y Bil Llywodraethu Amgylcheddol Newydd: Beth mae'n ei olygu i gyrff cyhoeddus?
Y Bil Llywodraethu Amgylcheddol Newydd: Beth mae'n ei olygu i gyrff cyhoeddus?
Ddydd Mercher 9th Gorffennaf11am-12.30
Y Bil Llywodraethu Amgylcheddol newydd: beth mae'n ei olygu i gyrff cyhoeddus? Yr Wythnos Natur Cymru hon, ymunwch â Chenedlaethau'r Dyfodol Cymru a Chyswllt Amgylchedd Cymru wrth i ni drafod Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Darganfyddwch beth mae'r Bil yn ei gynnig a beth allai hyn ei olygu i chi fel corff cyhoeddus. Rydym wrth ein bodd yn cael arbenigedd rhai o'n sefydliadau amgylcheddol blaenllaw yng Nghymru i'w drafod ac i ateb eich cwestiynau. Mae'r digwyddiad hwn ar-lein yn unig, 11am-12.30pm ddydd Mercher 9fed Gorffennaf.
Dewch i ddysgu am y pryfed anhygoel sy'n byw yng nghoedwigoedd Afon Gafenni gyda'n entomolegydd arbenigol Richard Dawson. Croeso i bobl o bob oed, does dim angen profiad.
Hoffech chi helpu bywyd gwyllt yn eich ardal leol, aros yn egnïol a chwrdd â phobl o'r un anian â chi? Ymunwch â ni am sesiwn flasu gwirfoddoli ym Mhwll Waun Cynon!
Ymunwch â Tara, ein swyddog gwarchodfeydd, i ddysgu mwy am rywogaethau goresgynnol, bywyd gwyllt brodorol a sut allwch chi helpu!
Digwyddiad Celf Natur - Gwenoliaid Duon a Gwenoliaid
Digwyddiad Celf Natur - Gwenoliaid Duon a Gwenoliaid
Dydd Mercher 09 Gorffennaf 19:00 – 21:00
Y Barri, Park Rd, y Barri CF62 3BY
Ymunwch â Phartneriaeth Natur Leol y Fro a Sarah Hannis am noson greadigol am ddim wedi'i hysbrydoli gan acrobatiaid awyr hardd yr haf – y gwenoliaid duon, y gwenoliaid a gwenoliaid y bondo.
Ddydd Mercher 9 Gorffennaf 10-12.30pm fel rhan o Wythnos Natur y Fro byddwn yn ail-ymweld â'r SoDdGA yng Ngwarchodfa Natur Aberddawan i gasglu sbwriel. Anfonir y manylion y diwrnod cynt.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gadarnhau eich presenoldeb yn y digwyddiad hwn, cysylltwch â ni ar thaw@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch: 07395 365387 neu 07395 365386.
Taith Gwenyn a Gloÿnnod Byw yn Llwyncelyn 9 Gorffennaf 12:30 Ymunwch ag Andy Karen o Ymddiriedolaeth Natur Gwent yng Ngwarchodfa Natur Leol Llwyncelyn ar daith dywys i chwilio am wenyn a gloÿnnod byw.
Dewch i ymuno â ni i ddysgu popeth am weision y neidr a'u perthnasau. Dyma gyfle gwych i ddysgu am weision y neidr yn ystod Wythnos Genedlaethol Gweision y Neidr ac Wythnos Natur Cymru.
Er mwyn cael rhagor o fanylion ac i archebu, cysylltwch â Sheryl Beck
Mae taith arbennig o’r feithrinfa am ddarganfod ein rhywogaethau brodorol fendigedig. Mae Celtic wildflowers yn eu cyfrannu i brosiectau natur ledled Cymru a gwledydd Prydain, felly bydd yn glyfle gwych i ofyn cwestiynau am yr amrywiadau brodorol gwahanol o goed, llwyni a phlanhigion a’u haddasrwydd i swyddogaethau a chynefinoedd gwahanol.
Gallai wybodaeth hyn eich helpu i drawsnewid cynlluniau plannu eich Cyngor, gwella bioamrywiaeth, a hyrwyddo amrywiadau treftadaeth Cymreig sy’n ffynnu yn ein hinsawdd unigryw ac yn cefnogi ein bywyd gwyllt amrywiol.
Ymunwch ag Oliver Wicks o Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru am daith dywys ar hyd afon Elái ble bydd yn dangos y gwaith maen nhw wedi’i wneud ac yn dathlu manteision y dirwedd waith hon. Bydd angen esgidiau cerdded da a lefel resymol o ffitrwydd.
I gadw lle ac am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Oliver Wicks yn oliver.wicks@sewrt.org
Mae cymuned Stryd y Ddôl yn brosiect anhygoel yng nghanol Pontypridd. Wedi'iariannu'n wreiddiol gan grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2021, mae'r gofodcymunedol hwn wedi datblygu ers hynny i fod yn lleoliad amlbwrpas i gymunedauymgysylltu â natur, tyfu bwyd, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd.Mae gan y prosiect hwn gymaint o elfennau gwahanol, mae'n siŵr y bydd rhywbethy gallwch chi gael eich ysbrydoli ganddo a byddwch chi'n gadael yn teimlo'nfrwdfrydig ac yn hyderus i greu rhywfaint o le i natur ar garreg eich drws. ByddHelen a Holly o Gyngor Tref Pontypridd yn ein harwain a byddant yn rhannu eugwybodaeth a'u profiad gyda chi gyd. Unwaith y bydd y daith wedi'i chwblhau, byddcyfle i grwydro o amgylch y safle, yna gallwn fwynhau lluniaeth a chyfle i ofyncwestiynau neu ymlacio yn natur.
Yr haf yw'r amser perffaith i weld yr ystod eang o blanhigion rhyfeddol sy'n ffynnu yng Ngilfach. Taith gerdded dan arweiniad Bronwen Jenkins, botanegydd a gwirfoddolwr hirdymor gyda Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed.
Crêwch eich llyfrau braslunio eich hun gyda thechnegau rhwymo llyfrau, a chrwydro drwy'r coed i chwilio am ysbrydoliaeth wrth inni dynnu llun yn ystyriol gyda'n gilydd.
7 Gorffennaf
6 y.p. - 8.30 y.p.
Coed Pentremawr, Pontyberem
Digwyddiad addas i oedolion yn unig (16 oed +)
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Becky Brandwood-Cormack:
Mae waliau sychion yn rhan bwysig o dirwedd penrhyn Gŵyr ac maent wedi bod ers milenia. Ymunwch â ni am gyfres o weithdai lle byddwn yn dysgu rhagor am bwysigrwydd waliau sychion ym mhenrhyn Gŵyr a sut i'w hadeiladu.
Gallwn weithio yn ôl galluedd unigolion, ond mae angen i unigolion allu codi cerrig o lefel y tir i uchder ysgwydd. Cynhelir bob gweithdy dros ddeuddydd.
Darperir te/coffi a bisgedi. Dewch â'ch cinio eich hun
Dillad - argymhellir eich bod yn gwisgo llawer o haenau (gan gynnwys dillad dwrglos) er mwyn cadw'n gynnes os yw'n oer, a chadw'n oer pan fydd yr haul yn tywynnu.
Darperir menig gwaith, ond mae'n rhaid i'r rhai sy'n cymryd rhan ddod â'u hesgidiau/bŵts blaen dur eu hunain wrth godi waliau
Cysylltwch â bywyd gwyllt a chynefinoedd godidog Sir Gaerfyrddin yn Wythnos Natur Cymru Nid oes angen archebu ymlaen llaw. Mwy o wybodaeth: PAubrey(ecarmarthenhsire.gov.uk
Cynhelir Green Gathering Glantawe ym Mharc Glan yr Afon, Pontardawe
Dewch i ymgolli ym myd natur. Wyddoch chi byth beth wnewch chi ei ddarganfod. Cymerwch ran mewn digwyddiadau celf a chrefft, gwnewch fomiau hadau a gweld gwaith celf sydd ar werth.
5 Gorffennaf, Sessions House, Brynbuga 11am tan 5pm
I ddathlu cyflawniadau un o frodorion enwocaf Brynbuga, bydd Cymdeithas Ddinesig Brynbuga yn cynnal Diwrnod Alfred Russel Wallace i nodi'r diwrnod, ar 1 Gorffennaf 1858, y cyflwynodd Wallace a Darwin eu damcaniaeth am esblygiad. Bydd teithiau cerdded tywysedig, arddangosfeydd a ffilmiau, a chrefftau; mae'r rhaglen lawn ar gael ar y dudalen Facebook yma.
Helpwch ni i arolygu'r dolydd yng nghwarchodfa GraeanLlandinam , ffordd ardderchog o ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd ac Wythnos Natur Cymru! Nid oes angen profiad blaenorol; darperir hyfforddiant, sy’n golygu bod hwn yn gyfle perffaith i ddysgu sut i adnabod rhai o blanhigion y dolydd. Rhaid archebu.
Beth am gychwyn Wythnos Natur Cymru trwy ein helpu i ddathlu’r cynefinoedd blodau gwyllt gwych sydd gennym yma yng Nghaerdydd? Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd yw’r amser delfrydol i ddarganfod sut mae Ceidwaid Parciau Cymunedol a Phartneriaeth Natur Leol Caerdydd yn rheoli ac yn adfer cynefinoedd glaswelltir llawn blodau gwyllt yn y ddinas, hafan ar gyfer glöynnod byw, gwenyn a llu o fywyd gwyllt arall.
Gyda gweithdai a gweithgareddau wedi’u cynllunio, bydd digon i’ch hysbysu a’ch diddanu.
Diwrnod BioBlitz yn Stad Southwood 5 Gorffennaf 09:00 – 17:00
Helpwch ni i gofnodi bywyd gwyllt yn Stad Southwood ar y Diwrnod BioBlitz arbennig hwn ar gyfer Wythnos Natur Cymru a Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd! Cofnodwch y planhigion a’r anifeiliaid y dewch chi ar eu traws a rhyfeddwch at yr amrywiaeth o rywogaethau sy’n ffynnu yn y dirwedd anhygoel hon. Does dim angen profiad. Yn addas ar gyfer dechreuwyr, y rhai sydd am wella eu sgiliau, ac arbenigwyr. Yn addas i bawb. Rhaid i blant dan 12 fod yng nghwmni oedolyn.
Digwyddiad am ddim. Does dim angen archebu. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Rebecca Evans 01646 623110 stackpole@nationaltrust.org.uk
Stad Southwood yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Sir Benfro
Cysylltwch ag Rebecca Evans am ragor o wybodaeth 01646 623110
Cysylltwch â bywyd gwyllt a chynefinoedd godidog Sir Gaerfyrddin yn Wythnos Natur Cymru Nid oes angen archebu ymlaen llaw Mwy o wybodaeth: PAubrey@carmarthenhsire.gov.uk
Ymunwch â wardeniaid Cemlyn ar daith gerdded dywys o amgylch Gwarchodfa Natur anhygoel Cemlyn i weld môr-wenoliaid pigddu, môr-wenoliaid cyffredin a môr-wenoliaid Arctig yn nythu yn y gytref adar môr ysblennydd hon.
Cyfle i fynd yn ôl mewn amser a darganfod sut daethpwyd â phlanhigion gardd i Gymru o bedwar ban byd, a’r niwed sy’n gallu cael ei achosi i fyd natur hyd heddiw wrth iddyn nhw ddianc o erddi. Yn cynnwys gwaith gan yr artist, Manon Awst.
Ymunwch â Glasbren ar gyfer eu Diwrnod Fferm Gymunedol fisol nesaf pan fyddwn yn dathlu Wythnos Natur Cymru!
Yn ogystal â bore o weithgareddau fferm cymunedol - byddwn yn dathlu Wythnos Natur Cymru drwy groesawu Tim Hollis a Helen Peake i'n tywys ar daith gerdded i gwrdd â'r bywyd gwyllt sydd ar y fferm.
I helpu i ddathlu’r glöyn byw hynod brin sydd i’w weld yn Saint-y-brid - y Fritheg Frown, mae Gwarchod Gloÿnnod Byw yn eich gwahodd i fod yn greadigol a chymryd rhan! Gwnewch eich glöyn byw eich hun, gadewch eich dychymyg yn rhydd! Yn agored i bawb yn y pentref – aelwydydd, busnesau, grwpiau cymunedol.
Arddangoswch nhw yn eich gardd neu’ch dreif rhwng 10am ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf tan 6pm ddydd Sul 6 Gorffennaf
Gwnewch yn siŵr eu bod yn ddigon sefydlog i wrthsefyll y tywydd. I’w beirniadu ar sail creadigrwydd, gwreiddioldeb a gwerth artistig. Bydd gwobrau i’r 1af, yr 2il a’r 3ydd.
Cyflwyniad yn The Fox 7pm nos Fawrth 8 Gorffennaf.
Rhaid cadw lle ymlaen llaw. Digwyddiad rhad ac am ddim.
I ddathlu Diwrnod y Dolydd ac Wythnos Natur Cymru rydym yn cynnal dathliad o fyd natur. Fel rhan o’r diwrnod hwn rydym yn cynnig sesiwn botaneg i ddechreuwyr am ddim i ddysgu mwy am y planhigion rhyfeddol hyn.
Ydych chi’n barod i fynd ar antur i fyd dolydd a glaswelltiroedd? Ymunwch â ni am ddigwyddiad botaneg i ddechreuwyr ble byddwch yn dysgu am yr amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion mae’r tirweddau hyn yn gartref iddynt. Byddwn yn crwydro drwy harddwch a phwysigrwydd glaswelltiroedd.
Ymunwch â Phrosiect Adfer Tirwedd y Ddawan a Grŵp Ystlumod Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr ar daith gerdded ystlumod gyda'r nos o amgylch Castell Ffwl-y-mwn. Bydd gennym synwyryddion ystlumod i'n galluogi i glywed galwadau ecoleoli'r ystlumod a darganfod ble maen nhw'n clwydo wrth iddyn nhw ddod allan gyda'r cyfnos. Dysgwch am fywyd ystlumod a phrofwch y cyffro o'u gweld yn hedfan.
Cyfunwch gelf a'r awyr agored yng Ngerddi Dyffryn yr haf hwn. O 20 Mehefin tan 18 Gorffennaf bydd y gerddi'n gartref i ddarnau unigryw o gelf awyr agored rhyngweithiol.
Mae'r darnau celf hyn yn dathlu byd natur ac yn datgelu stori Dyffryn fel gardd sy’n warchodfa natur. Maent yn canolbwyntio ar gysylltedd, garddwriaeth ac annog ymwelwyr i gofleidio ac ymateb i fyd natur.
Sgwrs a Thaith Gerdded Gwenoliaid Duon yn Nhrefynwy
Sgwrs a Thaith Gerdded Gwenoliaid Duon yn Nhrefynwy
3 Gorffennaf, 7pm-9pm
Sgwrs yng Nghanolfan Bridges (7pm-8pm), Taith Gerdded Leol (8pm-9pm)
Allwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng gwenoliaid duon, gwenoliaid a gwenoliaid y bondo? Dewch i ddarganfod sut allwch chi helpu gwenoliaid duon yn Nhrefynwy, gan grŵp cadwraeth 'Swifts of Usk'.
Ymunwch â ni i ddathlu gwenoliaid duon gyda'r hwyr.
Dewch i glywed am brosiect Achub Gwenoliaid Duon Abertawe sydd â’r nod o warchod ein gwenoliaid duon lleol poblogaidd, sydd mewn perygl. Gallwch ymuno â ni hefyd ar dro machlud haul i chwilio am wenoliaid duon (a fydd yn dechrau o gwmpas machlud yr haul)
Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
Yn ddibynnol ar y tywydd
Does dim angen cadw lle - dewch draw a dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau!
Cwrdd wrth y fynedfa i Barc Treforys ar Park Lodge Rd, Treforys, Abertawe SA6 6DL Man cwrdd: 51°40'04.9"N 3°55'54.6"W - Google Maps What3words: ///quest.orders.bump
Ymunwch â ni i ddathlu gwenoliaid duon gyda'r hwyr.
Dewch i glywed am brosiect Achub Gwenoliaid Duon Abertawe sydd â’r nod o warchod ein gwenoliaid duon lleol poblogaidd, sydd mewn perygl. Gallwch ymuno â ni hefyd ar dro machlud haul i chwilio am wenoliaid duon (a fydd yn dechrau o gwmpas machlud yr haul)
Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
Yn ddibynnol ar y tywydd
Does dim angen cadw lle - dewch draw a dewch â'ch teulu a'ch ffrindiau!
11yb-1yp. Ymunwch â’n tywyswyr gwybodus a darganfyddwch fywyd gwyllt bendigedig RSPB Conwy, wrth iddyn nhw anelu at weld 50 o rywogaethau adar mewn dim ond ychydig oriau!
Ymunwch â ni i ddathlu pen-blwydd Gwarchodfa Natur Bryn Roundton yn 40 oed, gyda thaith dywys hafaidd drwy’r warchodfa, ac yna taith gerdded i fyny i gopa’r bryn, gan ddysgu popeth am fywyd gwyllt y safle arbennig hwn ar hyd y ffordd.
Dydd Mawrth 10 Mehefin: 19:00 i 21:00 Sgwrs yn Clwb Bowlio Romilly, Parc Romilly, Y Barri, wedi’i dilyn gan daith dywysedig i tor Gwennol Ddu yn y Cnap.
Ymunwch â Phartneriaeth Natur y Fro a Edward Mayer o Swift Conservation am noson ysbrydoledig i ddysgu popeth am wenoliaid duon– eu hecoleg, eu cadwraeth, a sut gallwch chi helpu!
Ymunwch â ni am sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar yn seiliedig ar natur fel rhan o Wythnos Natur Cymru.
Mae'r sesiwn ‘Therapi’r Goedwig’ hon, sydd AM DDIM, yn eich gwahodd i arafu, anadlu'n ddwfn, ac ailgysylltu â'r tir... a chi'ch hun, a hynny wedi'ch amgylchynu gan harddwch Cymru.
Gwarchodfa Natur Dyffryn Distaw - Glyn Ebwy
Am ragor o wybodaeth, edrychwch amdanom ar Instagram