Datganiad Hygyrchedd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r wefanhttps://www.biodiversitywales.org.uk/
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl ag sydd bosib yn defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun gael ei golli oddi ar y sgrin
- gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml ag sydd bosib i'w ddeall. Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw broblemau sylweddol o ran hygyrchedd. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw bryderon, gweler yr adran 'Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon' isod.
Adborth a manylion cyswllt
Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille:
- ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm)
- e-bostiwch: ymholiadau@cyfoethnaturiol.cymru
- ysgrifennwch atom yn:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa'r Brenin Edward Vll
Caerdydd
CF10 3NQ
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 2 ddiwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd sy’n ymwneud â’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, anfonwch e-bost at Dîm Digidol CNC yn digidol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni
Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfnewid testun i bobl F/fyddar, pobl sydd â nam ar y clyw neu nam ar eu lleferydd.
Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 AA, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.
Paratowyd y datganiad hwn ar 9 Mehefin 2025.