Skip to content
bluebell-wood

Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru 2025

Mae Cynhadledd PBC bellach ar agor i dderbyn archebion

Cynhadledd PBC 16 & 17 Hydref, Prifysgol Aberystwyth

Archebwch nawr i ymuno â ni yng Nghynhadledd PBC eleni

Ymunwch â ni y mis Hydref hwn ar gyfer Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru! Mae’r digwyddiad wyneb yn wyneb am ddim hwn yn dod â phobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt at ei gilydd i archwilio sut y gallwn gydweithio i adfer bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau. Eleni, byddwn yn archwilio sut y gallwn gymryd camau cynaliadwy gyda’n gilydd i sicrhau adferiad natur yng Nghymru. Rydym yn hynod o falch bod y gynhadledd yn cael ei hagor gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies (MS). Os ydych chi'n gweithio ar y tir, afonydd, neu ar y môr, yn ymgysylltu â chymunedau, yn cyflawni polisïau, yn cynhyrchu tystiolaeth, neu hyd yn oed yn teimlo’n angerddol ynglŷn â natur – ymunwch â ni.

Argymhellir archebu’n gynnar am fod lleoedd yn gyfyngedig, a bu gordanysgrifio ar gyfer cynadleddau’r gorffennol. Rhoddir lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin fel arfer, ond mae PBC yn neilltuo’r hawl i reoli’r archebion er mwyn sicrhau cydbwysedd cynrychioliadol o gynadleddwyr. Rhoddir blaenoriaeth i aelodau rhwydwaith PBC a sefydliadau sy’n ymwneud â chynllunio cadwraeth natur a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru.

Gall cynadleddwyr gofrestru ar gyfer y naill ddiwrnod neu’r llall o’r gynhadledd, neu’r ddau. Digwyddiad rhad ac am ddim yw’r gynhadledd, a darperir cinio a lluniaeth ysgafn. Gall cynrychiolwyr hefyd archebu i ymuno â PBC am sesiwn rwydweithio gyda’r nos a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth lle bydd bwyd a diodydd ar gael i’w prynu. Rhaid i gynadleddwyr archebu llety’n annibynnol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno poster, neu os hoffech gael stondin arddangos, a fyddech cystal ag anfon e-bost

Nodyn

Mae cynhadledd PBC yn defnyddio’r rhaglen 3ydd parti Eventbrite i goladu archebion ac mae’n casglu gwybodaeth fel enw, e-bost, rhif ffôn, cyfeiriad, anghenion dietegol ac anghenion arbennig eraill Gallwch weld polisi preifatrwydd Eventbrite yma. Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd a bydd ond yn defnyddio eich data i bwrpas archebu ar gyfer y gynhadledd, a bydd ond yn dal eich data cyhyd ag y bo’i angen i wasanaethau digwyddiad y gynhadledd. Gallwch weld Polisi Preifatrwydd llawn PBC yma.

Ceir testun sefydlog na ellir ei olygu o fewn Eventbrite sy’n golygu na allwn ddarparu’r broses archebu yn gyfan gwbl yn y Gymraeg. Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleuster hwn.

Darllenwch am Gynadleddau Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru blaenorol

Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru 2022

“Yr Argyfwng Bioamrywiaeth Byd-eang: camau gweithredu ac atebion gan Gymru”

Cynhaliwyd y gynhadledd ar-lein rhwng Hydref 3-7.
Rhaglen: Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru 2022 (PDF)
Cliciwch yma i ddal i fyny ar sesiynau a recordiwyd

Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru 2020

23 a 27 Tachwedd

"Ymateb i’r argyfwng sy’n wynebu natur yng Nghymru"

Cliciwch yma i ddal i fyny ar sesiynau a recordiwyd

Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru

19 – 20 Medi 2018 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Adroddiad y Gynhadledd 2018

Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru

7-8 Medi 2016, Prifysgol Bangor

Adroddiad y Gynhadledd 2016 (PDF)

Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru

9-10 Medi 2015, Prifysgol Aberystwyth

Adroddiad y Gynhadledd 2015 (PDF)

Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru

10-11 Medi 2014, Prifysgol Caerdydd

Adroddiad y Gynhadledd 2014

Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru

18-19 Medi 2013, Prifysgol Bangor

Trafodaethau Cynadleddol 2013 (PDF)

Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru

12eg - 13fed Medi; Prifysgol Morgannwg, Pontypridd

Adroddiad y Gynhadledd 2012 (PDF)

Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru

14 & 15 Medi 2011

Adroddiad y Gynhadledd 2011 (PDF)

Cynhadledd PBC/LlCC 2010

15-16 Medi, Prifysgol Bangor

Crynodebau a Chyflwyniadau Cynhadledd PBC 2010 (PDF)

Cynhadledd Cynllun Gweithredu'r DU ar Fioamrywiaeth 2010, 23 a 24 Tachwedd, Stirling

Mae trafodion y gynhadledd ar gael erbyn hyn. Roedd thema'r gynhadledd yn adlewyrchu'r targedau bioamrywiaeth newydd ar gyfer y Cenhedloedd Unedig a'r Undeb Ewropeaidd

Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru

16 & 17 Medi 2009, Prifysgol Morgannwg

Crynodeb a Chyflwyniadau Cynhadledd PBC 2009 (PDF)

Cynhadledd Cynllun Gweithredu’r DU ar Fioamrywiaeth 2008

‘Cyflawni dros Natur’

10–11 Medi, Prifysgol Aberystwyth

Adroddiad y Gynhadledd 2008 (PDF)