Gwirfoddoli Amgylcheddol Pecyn Cymorth
Felly rydych am roi help llaw i'r amgylchedd ond yn ansicr sut i ddechrau arni?
Mae gwirfoddoli amgylcheddol yn ffordd wych o gefnogi'r blaned wrth roi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned leol ac mae yna lawer o gyfleoedd a all weddu i'ch ffordd o fwy.
Mae yna gannoedd o weithgareddau ar gael i chi gymryd rhan ynddynt ond sut y gwyddech ba rai sy'n addas i chi?
Nod y pecyn cymorth (PDF) hwn yw'ch helpu i benderfynu pa agweddau ar wirfoddoli amgylcheddol sy'n apelio fwyaf atoch yn seiliedig ar eich sgiliau, eich diddordebau a'ch amgylchiadau. Mae'r pecyn wedi'i rannu'n themâu gwahanol a nodir nifer o brosiectau enghreifftiol i'ch helpu i ddod o hyd i'ch rôl ddelfrydol, p'un ai ydych wrth eich bodd yn bwydo'ch cymuned, yn giamstar ar gyfrifiadur, eisiau gwella pryd a gwedd eich stryd, yn dwli ar fyd natur, yn mwynhau cadw'n heini, neu eisiau gwneud ffrindiau newydd. Pa weithgareddau bynnag a ddewiswch fe fyddwch yn helpu i wella ein hamgylchedd yn awr ac i genedlaethau'r dyfodol!
Os hoffech wneud mwy dros y blaned cymerwch gip ar yr adran Mynd Ymhellach i gael syniadau ar gyfer rhoi hwb gwyrdd i'ch bywyd bob dydd. Cliciwch yma i weld y Gwirfoddoli Amgylcheddol Pecyn Cymorth
Am fwy o weithgareddau natur, edrychwch ar ein adnoddau 'Cofnodi Byd Natur'.