Wales Nature Week 2024

Wythnos Natur Cymru 5 -13 Gorffennaf 2025

Ychwanegwch y dyddiad at eich amserlen cynllunio digwyddiadau!

Edrychwn ymlaen at ymuno â chi i ddathlu Wythnos Natur Cymru 2025!

Diolch yn fawr i bawb a fu’n rhan o ddathliadau Wythnos Natur Cymru 29 Mehefin - 7 Gorffennaf 2024!

Diolch o galon i’n sefydliadau partner ac i Bartneriaethau Natur Lleol sy’n gyfrifol am gynnal Wythnos Natur Cymru. A diolch i’r gymuned cyfryngau cymdeithasol – ffrindiau hen a newydd am rannu eich negeseuon a’ch brwdfrydedd tuag at natur â ni!

Beth i’w ddisgwyl mewn digwyddiadau

Bydd rhywbeth at ddant pawb – digwyddiadau i unigolion, teuluoedd a’r rhai sy’n newydd i fyd natur, yn ogystal â’r rhai mwy profiadol yn y maes.

Nid oes angen i chi fynychu digwyddiad i ddathlu Wythnos Natur Cymru. Y cwbl sydd angen i chi wneud yw mynd allan i werthfawrogi’r natur sydd ar garreg eich drws yn ystod Wythnos Natur Cymru. Gallai fod yn ddechrau ar berthynas gydol oes!

Byddwch yn rhan o'r stori! Rhannwch eich straeon a’ch profiadau o fyd natur gan ddefnyddio #WythnosNaturCymru a dangoswch eich angerdd dros fyd natur!

Syniadau da i roi help llaw i natur

  • Gadewch i gornel yn eich gardd 'dyfu'n wyllt' - bydd llu o greaduriaid yn elwa o'r weithred syml hon.
  • Mabwysiadwch ddull plannu ‘cyfeillgar’ i bryfed peillio - bydd gwenyn, gloÿnnod byw a phryfed hofran yn gwerthfawrogi ffynonellau paill a neithdar
  • Bydd blwch ffenestr yn denu peillwyr os yw'r gofod yn brin - mae lafant a melyn Mair yn ddewisiadau da
  • Peidiwch â defnyddio mawn a phlaladdwyr - gall cemegau gael effaith ddinistriol ar bryfed a micro-organebau'r pridd. Mae compost heb fawn yn helpu i ddiogelu cynefinoedd corsiog gwerthfawr rhag echdynnu mawn
  • Darparwch ffynhonnell ddŵr ar gyfer draenogod, adar a phryfed - mae soser pot planhigion syml yn berffaith ar gyfer hyn.
  • Rhowch gartref i fyd natur a gosodwch dŷ pryfed neu flwch adar
  • Tynnwch luniau o natur y byddwch yn eu gweld yn eich gardd neu pan fyddwch allan yn crwydro. Rhannwch ar gyfryngau cymdeithasol i ymuno â chymuned fywiog o rai sy’n ymddiddori mewn natur

Er mwyn cael rhagor o syniadau, gweler yr adran Adnoddau a'r adran Helpu Bywyd Gwyllt

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt