 |
|
Newyddion diweddaraf
|
| Picellwr Pedwar Nod
by
Terry Cross |
" Bioamrywiaeth yng Nghymru "
Anelir y wefan hon at ymarferwyr a’r cyhoedd sy’n cymryd rhan mewn Gweithredu Bioamrywiaeth ledled Cymru. Bydd yn gweithredu fel canolbwynt i weithredu bioamrywiaeth, digwyddiadau a gwybodaeth cyffredinol yng Nghymru a bydd yn esblygu’n barhaus.
- I ddarganfod mwy am beth sy’n digwydd ym myd bioamrywiaeth yn eich ardal ymwelwch â’r calendr digwyddiadau.
- I gysylltu â’ch partneriaeth Bioamrywiaeth lleol, defnyddiwch y map wrth glicio ar ‘lleol i chi’.
- Porwch trwy’r adrannau adnoddau am wybodaeth benodol ar waith gydag ysgolion a phrosiectau megis garddio bywyd gwyllt. obeithiwn y byddwch yn mwynhau’r wefan hon.
Cofiwch gynnig sylwadau trwy gyfrwng y ffurflen adborth ar y dudalen Cysylltu â Ni.
Arolwg – Byw efo Mamaliaid
Arolwg a wneir gan wirfoddolwyr yw Byw efo Mamaliaid, a bydd yn cael ei gynnal trwy Ebrill, Mai a Mehefin. Gofynnir i’r rheini fydd yn cymryd rhan i ddewis safle mewn amgylchedd adeiledig (er enghraifft mewn gardd, rhandir, cae chwarae neu fynwent), gan gofnodi’r hyn a welant ac unrhyw arwydd o famaliaid am wyth wythnos neu fwy yn ystod cyfnod yr arolwg.
Eleni, fe fydd y chweched arolwg yn cael ei gynnal, a bob blwyddyn rydym yn ceisio cynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan er mwyn cael darlun gwell fyth o famaliaid y wlad.
Gall cydlynydd y prosiect roi manylion neu erthygl fer i chi y gallwch eu cynnwys mewn cylchlythyr, neu gall anfon taflenni neu bosteri atoch fel y gallwch eu rhoi mewn canolfannau ymwelwyr.
Ffoniwch Hannah Stockwell ar 020 7498 4533 i gael mwy o fanylion.
I gymryd rhan ar-lein, neu i ddarllen ymhellach am gasgliadau’r arolwg hyd yn hyn, cliciwch ar www.ptes.org.
Cyrsiau Cadwraeth y Shared Earth Trust
Mae cyrsiau da a rhad i’w cael yng nghanolfan gadwraeth y Shared Earth Trust yn Fferm Denmarc, Ceredigion. Maen nhw’n ymdrin ag arolygu cynefinoedd, adnabod ac enwi isblanhigion ac uwchblanhigion, creu pyllau dŵr, arolygu ieir bach yr haf, a llawer mwy. Edrychwch ar y wefan i gael mwy o fanylion
Shared Earth Trust training courses
Rhaglen Hyfforddi Flora Locale
Bwriad rhaglen hyfforddi Flora Locale ar gyfer 2008 yw annog pobl i gynllunio, rheoli ac adfer tirweddau er budd bioamrywiaeth mewn lleoliadau trefol a gwledig. Yng Nghymru, mae Flora Locale yn gweithio efo amrywiaeth eang o sefydliadau trwy gyfrwng Menter Gweirgloddiau Gwyllt Cymru. Fe fydd cyfanswm o naw o gyrsiau’n cael eu cynnal yng Nghymru yn ystod Mehefin a Gorffennaf, ac fe fydd pob un o’r cyrsiau Gweirgloddiau Gwyllt yn rhad ac am ddim. Edrychwch ar y wefan i gael manylion pellach am y cyrsiau, ac i gael yr wybodaeth ddiweddaraf: http://Rhaglen Hyfforddi Flora Locale. Cysylltwch ag Ivy Berkshire wildmeadows.ivy@googlemail.com, ffôn: 07912 789003, i drefnu lle ar gwrs o’ch dewis.
Mae rhestr o gynefinoedd a rhywogaethau pwysig iawn yng Nghymru wedi’i chyhoeddi
Yn dilyn ymgynghori manwl, mae rhestr Adran 42 o gynefinoedd a rhywogaethau pwysig iawn yng Nghymru wedi ei llunio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae bellach ar gael. Mae’r rhestr yn cynnwys yr holl rywogaethau a’r holl gynefinoedd yng Nghymru o blith y rhai a restrir yng Nghynllun Gweithredu’r DU ar Fioamrywiaeth, ynghyd â rhywogaethau o bwysigrwydd cadwraethol arbennig yng Nghymru, ac mae’n ofynnol cael rhestr o’r fath dan Ddyletswydd Bioamrywiaeth Deddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) 2006. Diolch i’r rheini a gymerodd ran yn yr ymarfer ymgynghori. Fe fydd rhestr Gymraeg yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bydd ar gael.
Cliciwch yma i weld rhestr Adran 42
Rhestrau Gwirio’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth
Mae rhestrau gwirio i’w cael er mwyn helpu staff perthnasol mewn awdurdodau cyhoeddus ac awdurdodau lleol i roi Dyletswydd Bioamrywiaeth y Ddeddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) ar waith. I weld y rhestrau gwirio, cliciwch ar y cyswllt hwn