Natur yn Thorfaen a Blaenau Gwent

Nod Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen yw dod â chymunedau ynghyd i archwilio, darganfod a rhannu natur ar garreg eu drws, gan gynnig cyngor a chymorth yn ymwneud â chamau y gellir eu cymryd er budd bywyd gwyllt lleol.

Common toad

Amdanom ni

Ffurfiwyd Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen yn 2017, pan unwyd dwy Bartneriaeth Bioamrywiaeth Leol. Mae’r Bartneriaeth Natur Leol yn dwyn ynghyd amrywiaeth eang o sefydliadau, yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol Blaenau Gwent a Thorfaen, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gwent, Cyfeillion y Ddaear, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Cadwch Gymru’n Daclus, yn ogystal ag unigolion sy’n ymddiddori yn natur yr ardal.

Ein Nodau

Nodau’r Bartneriaeth Natur Leol yw:

Codi ymwybyddiaeth o gadwraeth natur ac annog mwy o gyfranogiad

Cefnogi a hyrwyddo camau sydd o fudd i ecosystemau, cynefinoedd a rhywogaethau lleol

Codi ymwybyddiaeth o’r camau y gall pobl eu cymryd i leihau’r pwysau ar rywogaethau a chynefinoedd lleol

Annog mwy o bobl i adnabod, cofnodi a monitro rhywogaethau a chynefinoedd lleol

Sut ydyn ni'n mynd i'w gyflawni

Trwy gyfrwng llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau rheolaidd a chyfarfodydd wyneb yn wyneb, mae’r Bartneriaeth Natur Leol yn codi ymwybyddiaeth o natur yr ardal, cyfleoedd i gymryd rhan mewn cadwraeth a chamau y gall pobl eu cymryd i leihau’r pwysau ar fywyd gwyllt lleol.

Ar hyn o bryd mae’r Bartneriaeth yn datblygu ei Chynllun Gweithredu Natur Lleol a’i Hadroddiad ar Gyflwr Natur. Mae’r dogfennau hyn yn sail i benderfyniadau, datblygiad prosiectau a gweithredu lleol.

Uchafbwyntiau

Yn Nhorfaen, mae’r nodweddion allweddol yn cynnwys nythfa o ystlumod pedol lleiaf o bwysigrwydd rhanbarthol, poblogaeth bwysig o adar dŵr sy’n gaeafu yng Nghronfa Ddŵr Llandegfedd, ac un o’r poblogaethau mwyaf deheuol yn y DU o rugieir coch sy’n bridio. Ymhlith y rhywogaethau nodedig eraill mae tegeirian y wenynen, y gornchwiglen, y wiber, y dyfrgi, y dylluan wen, y mochyn daear, y fadfall ddŵr gribog, y gardwenynen lwydfrown a buwch goch gota’r dŵr.

Ym Mlaenau Gwent, mae cornchwiglod sy’n bridio yn hoff o gynefinoedd a geir yn nodweddiadol mewn hen byllau glo, sydd i’w gweld ledled y fwrdeistref sirol. Mae’r ardal hefyd yn cynnal poblogaethau o’r gwyfyn silwraidd a’r gwas neidr brown, nad ydynt i’w cael ond mewn rhai lleoedd yn ne Cymru.

Mae yna nifer o bethau y gallwch eu gwneud er budd natur yn eich ardal – nid oes yr un cam yn rhy fach i wneud gwahaniaeth. Man cychwyn da yw eich gardd, neu hyd yn oed focs ffenestr. Mewn gwirionedd, mae gwneud llai yn eich gardd o fudd i fywyd gwyllt – gadael rhan o’r lawnt (neu’r lawnt i gyd) i dyfu’n hir dros yr haf, peidio â defnyddio chwynladdwyr neu beledi gwlithod, gadael pennau hadau a choesynnau planhigion dros y gaeaf – mae’r pethau hyn i gyd yn fannau cychwyn da i wneud gwahaniaeth. Wrth gynllunio’r hyn y gallwch ei wneud, meddyliwch am ‘fwyd, dŵr, mynediad a lloches’ – dyma anghenion sylfaenol bywyd gwyllt (a phobl hefyd!).

Rhai adnoddau i’ch rhoi ar ben y ffordd

scotlandbigpicture.com/MeWilding Llyfryn newydd gwych am rodd ariannol fechan – gwerth chweil yn sicr

wildlifetrusts.org/gardening

butterfly-conservation.org/how-you-can-help/get-involved/gardening

arc-trust.org/Pages/Category/gardens-and-ponds

Hefyd, mae’n hynod bwysig ichi gofnodi’r bywyd gwyllt a welwch yn eich gardd neu pan fyddwch yn mynd am dro – mae hyn yn helpu i greu darlun o’r rhywogaethau sydd i’w cael mewn gwahanol ardaloedd, fel bod modd eu deall a’u diogelu’n well. Gallwch gyflwyno eich cofnodion ar sewbrecord.org.uk, neu beth am lawrlwytho’r ap ‘LERC Wales’. Gallwch hefyd ddarganfod pa fath o natur sydd wedi’i chofnodi yn eich ardal chi ar wefan Aderyn aderyn.lercwales.org.uk.

Ffordd arall o wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich ardal yw cefnogi ymgyrchoedd sy’n ceisio dylanwadu ar awdurdodau lleol a thirfeddianwyr eraill i reoli eu tir yn fwy cynaliadwy. Er enghraifft, mae Plantlife yn cynnal ymgyrch i berswadio awdurdodau lleol i reoli ymylon ffyrdd er budd bywyd gwyllt. Cewch fwy o wybodaeth ar:

plantlife.love-wildflowers.org.uk/roadvergecampaign/#letter-to-your-council

Gall y ffordd y dewiswn fyw ein bywydau gael effaith fawr ar yr amgylchedd ac ar natur leol. Fel gyda garddio er budd bywyd gwyllt, pan ddaw hi’n fater o leihau ein heffaith, ‘gwell llai na gormod’. Meddyliwch sut y gallwch ddefnyddio llai o ddŵr a llai o drydan, lleihau eich gwastraff plastig a defnyddio llai ar y car. Cewch fwy o syniadau yn y daflen ‘MeWilding’, y cyfeirir ati uchod.

Mae bwrdeistrefi sirol cyfagos Torfaen a Blaenau Gwent yn doreithiog o natur. Os ewch chi ati i chwilota rhywfaint, gallwch ddarganfod gweundiroedd grug, coetiroedd hynafol a dolydd blodau gwyllt.

Mae Torfaen yn gartref i amrywiaeth hynod doreithiog ac amrywiol o gynefinoedd a rhywogaethau, yn cynnwys gweundiroedd grug ar yr ucheldiroedd, coetiroedd hynafol ar lethrau dyffrynnoedd a dolydd blodau gwyllt yn y de. Mae’r nodweddion hyn yn creu brithwaith o gynefinoedd sy’n gartref i adar anhygoel fel cornchwiglod a grugieir coch; blodau gwyllt fel gwlithlys (planhigyn cigysol sy’n tyfu mewn corsydd a mawnogydd), tegeirian y wenynen a melynog y waun; ac yn cynnal mamaliaid fel dyfrgwn ac ystlumod pedol lleiaf, a phryfetach prin yn cynnwys y gardwenynen lwydfrown a’r pryf tân. Mae nifer o’r rhain wedi’u cynnwys yn y rhestr Adran 7 o gynefinoedd a rhywogaethau pwysig iawn i Gymru.

Yn Nhorfaen, ceir pedwar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

  • Cronfa Ddŵr Llandegfedd – lle ceir poblogaethau helaeth o adar dŵr sy’n gaeafu ac adar sy’n galw heibio;
  • Y Blorens – cymunedau planhigion rhostir corlwyni tir uchel;
  • Cors Henllys – ffeniau tir isel
  • Tŷ’r Hen Forwyn – dôl tir uchel.

Caiff y rhain eu hategu gan saith Gwarchodfa Natur Leol a nifer o Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur, gyda phob un yn creu rhwydwaith cysylltiol ar raddfa tirwedd o safleoedd bywyd gwyllt ledled y fwrdeistref sirol.

torfaen.gov.uk/en/Related-Documents/Countryside/Local-Nature-Reserves.pdf

Os piciwch dros y ffin i Flaenau Gwent fe welwch dirwedd drawiadol a nodweddir gan ddyffrynnoedd cul ag afonydd a nentydd cyflym eu llif, llethrau coediog, ac ardaloedd mawr o gynefinoedd tir uchel sy’n frith o byllau, glaswelltiroedd heb eu gwella a chynefinoedd rhostir. Dros y blynyddoedd mae safleoedd diwydiannol, a arferai gael eu defnyddio i gloddio am lo a gwneud dur, wedi cael eu hailfeddiannu, ac yn sgil hyn mae nifer o fannau gwyrdd naturiol wedi cael eu creu. Mae safleoedd o’r fath yn werthfawr i fywyd gwyllt a chymunedau lleol fel ei gilydd.

Mae nifer o safleoedd yn y fwrdeistref yn cynnal amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau. Erbyn hyn, mae pwysigrwydd y rhain – nid yn unig i fywyd gwyllt, ond hefyd i’r gymuned leol – wedi cael ei gydnabod yn sgil eu dynodi’n Warchodfeydd Natur Lleol. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma

blaenau-gwent.gov.uk/cy/ymwelwyr/parciau-a-chefn-gwlad/

Prosiectau

Prosiect Ucheldiroedd Cydnerth De-ddwyrain Cymru
gwentwildlife.org/South-East-Wales-Resilient-Uplands-Project

Llwybr Ebbw Fach
ebbwfachtrail.org.uk

Cyswllt allweddol

Veronika Brannovic, Cydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol

Ffôn: 07528 142095
Ebost: veronika.brannovic@torfaen.gov.uk

Mae Torfaen yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Partneriaethau Natur Lleol CymruTorfaen

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt