Nid yw’r grŵp yn weithredol bellach ac nid yw gwybodaeth ar y dudalen hon yn gyfoes. Fe’i dangosir at ddibenion cyfeirio yn unig.

Dyma'r dudalen wybodaeth ar gyfer Grŵp Ecosystem Arfordirol PBC. Mae gweithgareddau Grŵp Ecosystem Arfordirol yn ymwneud ag Adran 7 cynefinoedd â blaenoriaethau yng Nghymru, fel a ganlyn: Morfa heli; Gro arfordirol gyda llystyfiant; Twyni tywod arfordirol; Clogwyni a llethrau arforol

Mae cynefinoedd arfordirol Cymru yn flaenoriaeth o safbwynt gwarchod natur gan eu bod yn cynnal amrywiaeth o rywogaethau arbenigol. Maen nhw'n amgylcheddau bregus a dynamig sydd dan bwysau gan fod y ffordd y defnyddir y tir yn newid. Twyni tywod, graean â llystyfiant, llethrau arforol a morfeydd heli yw'r cynefinoedd arfordirol â blaenoriaeth yng Nghymru, gyda phob un yn cynnal rhywogaethau cyffredin ac arbenigol, yn cynnwys tegeirianau'r fign galchog sy'n brin drwy'r wlad.

Arfordirol

Cynefinoedd Arfordirol â Blaenoriaeth yng Nghymru

Mae Grŵp Arfordirol PBC wedi nodi ardaloedd â blaenoriaeth ar gyfer ymdrechion cadwraethol penodol yng Nghymru , a chânt eu rhestru isod. Mae’r mapiau ar gael hefyd ar ffurf GIS. Defnyddiwch yr adran cysylltwch i wneud cais am y ffeiliau.

Daw aelodau’r Grŵp Arfordirol o gyrff statudol, awdurdodau lleol ac elusennau bywyd gwyllt, a chaiff ei gadeirio gan Angus Garbutt o’r Centre for Ecology and Hydrology (CEH). Os dymunwch restr aelodaeth gyflawn y grŵp, cysylltwch a’i gadeirydd. A oes gennych gwestiwn yn ymwneud â gwaith y grŵp hwn? cysylltwch

Fen orchid

Gefell-lys y fignen – trysor botanegol Cymru

Gefell-lys y fignen (Liparis loeselii) yw un o’r planhigion sydd fwyaf dan fygythiad yng ngogledd-orllewin Ewrop. Y systemau twyni tywod yng Ngwarchodfa Natur Cenedlaethol Cynffig ger Penybont ar Ogwr yw cadarnle’r rhywogaeth yn y DU. Mae gefell-lys y fignen wedi diflannu o Whiteford Burrows, Tre-gŵyr ac nid yw’n bodoli y tu allan i Gymru ond ar ychydig o safleoedd yn Nwyrain Anglia. Mae rhaglen radical i gefnogi’r gefell-lys y fignen ar safle Cynffig yn cynnwys crafu llystyfiant oddi ar y twyni i ffwrdd i greu lle gwag yn y twyni – hoff gynefin y rhywogaeth. Mae’r gwaith, sy’n dal ar y gweill, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Plantlife, Cyngor Penybont ar Ogwr yn cymryd rhan a bydd o gymorth i sicrhau dyfodol y rhywogaeth hwn sydd dan fygythiad.

Os hoffech chi gyflwyno bwlch tystiolaeth yn ymwneud â bioamrywiaeth neu ddull rheoli ar lefel yr ecosystem i’r grŵp hwn, cysylltwch â ni.

Os oes modd mynd i’r afael â’ch bwlch drwy weithgarwch ymchwil/prosiect ymchwil penodol, ewch i’r dudalen Prosiect Bylchau Tystiolaeth a chliciwch ar y ddolen ‘Ysgrifennu cwestiynau ar gyfer ymchwil wyddonol’

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt